Llanfaglan

St Baglan’s


St Baglan’s church lies in a wonderfully romantic position overlooking Caernarfon Bay set in splendid isolation in its large field.

The churchyard is well worth exploring – its form suggests pre-Christian origins and there is unpretentious vernacular charm in the boundary wall, the entrance gate with the churchwarden’s inscription and the range of slate headstones and chest tombs. (The churchyard is maintained y the Local Authority.)

The church has been repaired with substantial assistance from Cadw and dates in its earliest walling from the thirteenth century although it took four centuries more to acquire its present configuration.

As you enter the church do look on top of the eastern wall of the porch where you will find an extremely early re-used carved stone of the fifth or sixth century. A similar stone has been placed as a lintol over the inner face of the porch door.

The interior is evocative of eighteenth century social life in the mixture of modest open-back seating and the grander box-pews for the wealthier villagers who as you will see often added their own date and signature.

Read the History of St Faglan prepared by our Local Friends (Welsh language text)

Sant Baglan Llanfaglan

(neu’r hen eglwys fel y gelwir yn lleol) ger Caernarfon

Ar ôl ei chau, fe brynwyd yr Hen Eglwys gan y Friends of Friendless Churches yn 1991. Mae safle’r eglwys yn un odidog yn sefyll ar fryn ynghanol cae yn edrych dros draeth y Foryd a bae Caernarfon, ac wrth gwrs ardal pedwaredd gainc y Mabinogi.

Mae cynllun yr eglwys y deilo o’r cyfnod cyn-gristnogol ac yn sefyll mewn cornel lloc aml onglog yn ymestyn tua 1.7 hectar. Nid oes dim i’w weld o’r lloc erbyn heddiw.

Uwch ben y fynedfa, fe welwch garreg yn nodi gwardeiniaid yr eglwys yn 1772.

Mae muriau cynharaf yr eglwys, a atgyweiriwyd gyda chymorth sylweddol gan CADW yn 1991, yn dyddio o’r 13eg/14eg ganrif, ac fe’i cwblhawyd i’w chyflwr presennol yn yr 18fed ganrif.

Yn y fynedfa, fe welwch dwy garreg un fel silff, a’r llall fel lintel, gyda chroes wedi’i cerfio arnynt.

Uwchben y drws fe welwch garreg arysgrifenedig hynafol, yn dyddio’n ôl i’r 5 neu 6ed ganrif, ac arni mae Filli Lovernii Anatemori. Lovernii, yw’r hen air Brythoneg am lwynog, a chredir mai hwn yw’r cofnod ysgrifenedig hynaf ym Mhrydain sy’n cyfeirio at anifail.

Y tu mewn cewch weld eglwys fel ag yr oedd hi yn y 18fed ganrif, meinciau syml i’r tlodion a seddi moethus i’r cyfoethog, ac ar y rhain mae llawer wedi nodi ei henwau a’r dyddiad ar y seddi.

Mae yma hanes hynod o ddiddorol, ac mae’r eglwys yn werth ymweld â hi.

Mae yna raglen gyson yn mynd ymlaen i wneud y gwaith cynnal a chadw, fe ail galchwyd y tu mewn yn 2005 gan ddefnyddio calch melyn o Ynys Môn, ac mae’n bosib mai fel hyn yr edrychai’r eglwys yn wreiddiol. Fe atgyweiriwyd y porth ac fe ail bwyntiwyd y tu allan hefyd.

Yn ystod penwythnosau Treftadaeth Ewrop, mae plant yr ardal yn cynnal cyngerdd yn yr eglwys yn Gymraeg.

Cyngor Gwynedd sydd yn gyfrifol am y fynwent.

Rydym yn ddiolchgar iawn i griw bychan o bobl leol sydd yn gwarchod yr eglwys ar ein rhan.

Visitor Info


  • Keyholder

    Keyholder nearby.
    Call the office for details.